Croeso i RESOLVEit. Rydym yn gweithio ar gyfieithu ein gwefan i'r Gymraeg.
Mae tîm RESOLVEit yn dysgu Cymraeg ond dydyn ni ddim yn gwbl rugl eto felly cawsom ychydig o gymorth gan ein ffrindiau yn HeloBlod. Diolch yn fawr iawn!
Adnodd dwyieithog cyntaf RESOLVEit – pecynnau cynradd ac uwchradd gyda phopeth y byddwch ei angen i gynnal eich sesiwn diogelwch personol eich hun.
Gwelwch yr adnodd rhad ac am ddim hwn yn.
Ar gael ar lefel gynradd ac uwchradd.
Cofrestrwch ar gyfer ein platfform dysgu ar-lein, Tuborial.
Ar ôl mewngofnodi, gallwch gwblhau'r e-gyflwyniad a lawrlwytho'r pecyn i gynnig sesiwn naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg.
P'un a ydych chi’n wirfoddolwr neu'n athro, os ydych yn gwerthfawrogi diogelwch personol ac am addysgu eraill sut i gadw eu hunain yn ddiogel; cynhaliwch sesiwn diogelwch personol RESOLVEit yn Gymraeg neu yn Saesneg a lledaenwch y gair.
Mae’r e-gyflwyniad hwn yn cynnwys pecynnau sesiwn a chanllaw i’r sesiwn gyda sgript felly mae’n cynnig yr holl wybodaeth y byddwch ei hangen i ddarparu sesiynau RESOLVEit.
Cysylltwch â'r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Diolch yn fawr!